DYDD Iau diwethaf aeth disgyblion o flwyddyn saith ar drip ifestri Capel Heol Awst, i weld cyflwyniad gan Gymorth Cristnogol: ArMawrth 17, aeth disgyblion o flwyddyn saith ar ymweliad i FestriCapel Heol Awst, i gyflwyniad gan y Parchedig Tom Defis ar ranCymorth Cristnogol.
Buom yn dysgu am fywyd Jeremeiah, plentyn sydd yn byw ymMatopeni, Kenya. Dysgon ni fod Matopeni yn golygu 'yn y mwd', sy'ndangos pa mor llwm ydyw i gymharu a strydoedd cyfoes Nairobi.
Roedd yno dri gweithgaredd yn aros amdanom ni yn y festri, felly,wedi cael ein rhannu i dri grwp aethom o amgylch pob gweithgaredd yneu tro.
Roedd un gweithgaredd yn ymwneud gyda chartref Jeremeiah.
Roedd caban tebyg i'w gartref yn Kenya wedi cael ei greu yn yfestri i ni fynd mewn iddo. Sylweddolodd pawb pa mor fach oedd eigartref, a oedd yn un ystafell a oedd yn cael ei rhannu rhwng pumpperson.
Yn yr ail weithgaredd, roedd yno tua deg peth ar y bwrdd mewnllinell ac roedd rhaid i ni ddewis y pum peth pwysicaf i fod yngnghartref Jeremiah.
Y trydydd gweithgaredd, oedd holi cwestiynau i'r Parchedig RobynSamuel oedd yn esgus bod yn Jeremeiah, am ei fywyd ym Matopeni.
Fe ddysgon ni bod rhaid iddo fynd i bentref gerllaw i gael dwr abod rhaid iddo dalu dau ddeg swllt am ddeg litr! Dysgwyd hefyd bodJeremeiah yn cael cawod yn y pentref gerllaw ac er doedd dim rhaid iblant dalu am ymolchi, roedd yn rhaid i oedolion dalu.
Roedd Jeremeiah yn mynd i'r ysgol erbyn chwech o'r gloch y boreac yn dychwelyd am ar ol pump o'r gloch y prynhawn. DymuniadJeremeiah oedd bod yn adeiladwr er mwyn helpu pobl eraill.
Roedd hi'n amlwg bod byw ym Matopeni yn gallu bod yn beryglusiawn.
O dan ddarnau o bren yn y strydoedd roedd yna garthffosiaethffiaidd a llawer o bobl yn cael afiechydon wrtho.
Roedd y toiledau tu allan i'w cartrefi, felly yn y nos oherwyddbod hi mor beryglus y tu allan, rhaid defnyddio rhywbeth o'r enwflying toilet, hynny yw, gosod carthion mewn bagiau plastig a'utaflu allan i'r stryd.
Bwriad Cymorth Cristnogol yw i helpu datblygu cyfleusterauMatopeni, er mwyn gwella safonau byw y bobl.
Roedd y gweithgareddau yn ddiddorol, ond roedd clywed am hanesJeremiah yn gwneud i ni sylweddoli ein bod yn cymryd popeth ynganiataol.
Yn dilyn yr ymweliad teimlodd pawb eu bod yn deall yn well bethyw gwaith Cymorth Cristnogol.
Adroddiad gan Marged Ann Smith Blwyddyn 7. Diolch i swyddogionCymorth Cristnogol, i swyddogion Heol Awst ac i Mrs Mary Parry amdynnu ein sylw at beth yw gwir angen pobl a phlant yn y byd sy'ndatblygu.

Комментариев нет:
Отправить комментарий